Description: Heather logo portraitCynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Medi 2018

 

 

 

 

Diwygio Rheolau Sefydlog: Gweithredu Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Diben

1.   Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion i ail-wneud neu ddiwygio'r Rheolau Sefydlog.

2.   Mae'r adroddiad yn argymell:

·         diwygiadau i Reol Sefydlog 21: Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol;

·         diwygiadau i Reol Sefydlog 27: Is-ddeddfwriaeth (ac eithrio Isddeddfwriaeth sy’n Ddarostyngedig i Weithdrefn Cynulliad Arbennig);

·         Rheol Sefydlog 30B newydd: Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU o dan y Ddeddf sy'n cyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru dros dro; a

·         Rheol Sefydlog 30C newydd: Hysbysiad ynghylch Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 na chânt eu gosod gerbron y Cynulliad.

3.   Mae'r newidiadau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Busnes i'w gweld yn Atodiad A, ac mae'r Rheolau Sefydlog diwygiedig i'w gweld yn Atodiad B.

Y cefndir

4.   Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog sydd eu hangen i weithredu'r darpariaethau yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 ("Deddf Ymadael yr UE") sy'n arwain at oblygiadau i weithdrefn y Cynulliad, yng ngoleuni adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, 'Craffu ar y rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018: materion gweithredol'.

5.   I grynhoi, mae'r Ddeddf Ymadael yn creu categorïau newydd o is-ddeddfwriaeth:

·         rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru y mae angen iddynt fod yn destun o broses newydd o "sifftio" (h.y. argymell a ddylai'r weithdrefn negyddol ynteu'r weithdrefn gadarnhaol fod yn gymwys) gan bwyllgor;

·         rheoliadau a wneir gan Weinidogion y DU sy'n cyfyngu ar gymhwysedd y Cynulliad dros dro, y mae angen cydsyniad y Cynulliad ar eu cyfer; a

·         rheoliadau eraill a wneir gan Weinidogion y DU nad oes angen cydsyniad y Cynulliad ar eu cyfer ond y dylid hysbysu'r Cynulliad amdanynt.

6.   Mae crynodeb o'r newidiadau sydd eu hangen, felly, i'r Rheolau Sefydlog isod:

Newidiadau i Reol Sefydlog 21

·         Pwyllgor sifftio'r Cynulliad i gyflwyno adroddiad ar reoliadau a gaiff eu sifftio (h.y. yr holl rheoliadau a ddaw i'r Cynulliad o dan y broses sifftio), ac i gyflwyno adroddiad o fewn 14 diwrnod calendr.

·         Caiff Rheolau Sefydlog sy'n gymwys i reoliadau wedi iddynt gael eu sifftio eu datgymhwyso ar gyfer y broses sifftio.

·         Y meini prawf ar gyfer sifftio wedi’u cynnwys yn y Rheolau Sefydlog.

Newidiadau i Reol Sefydlog 27

·         Dylai'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â rheoliadau a gaiff eu sifftio gynnwys: (a) y datganiad y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ei wneud wrth osod y rheoliadau drafft ynghylch pam y credant y dylid dilyn y weithdrefn negyddol, a (b) y rhesymau dros y farn honno.

·         Os bydd Gweinidogion Cymru yn anghytuno â barn y pwyllgor sifftio o ran pa weithdrefn a ddylai fod yn gymwys, rhaid iddynt esbonio pam.

Rheol Sefydlog 30B newydd:

·         Y broses ar gyfer rheoliadau/ cyfyngiadau adran 109A a 80(8) ar gymhwysedd, a phenderfyniadau cysylltiedig o ran cydsyniad.

·         Datganiadau gan Weinidogion Cymru ynghylch pam y mae'r Cynulliad wedi gwrthod rhoi cydsyniad i'w osod gerbron y Cynulliad.

·         Gweinidogion Cymru i osod adroddiadau Llywodraeth y DU ar gyfyngiadau cymhwysedd bob tri mis.

·         Gweinidogion Cymru i hysbysu'r Cynulliad pan gaiff cyfyngiadau cymhwysedd eu codi.

Rheol Sefydlog 30C newydd:

·         Gweinidogion Cymru i hysbysu'r Cynulliad o offerynau statudol a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig os bydd yr offerynau statudol yn cael eu gosod gerbron Senedd y DU yn unig.

 

Camau i’w cymryd 

Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yn ffurfiol ar 25 Medi 2018, a gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo'r cynigion a nodir yn Atodiad B.

 

 

 

 

 

 

 


Atodiad A

Newidiadau drafft i Reolau Sefydlog ar gyfer craffu ar reoliadau a wneir o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) – Rheolau Sefydlog 21 a 27

 

21. RHEOL SEFYDLOG 21 – Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol;

 

Y Pwyllgor neu Bwyllgorau

 

21.1

Wrth gynnig cylchoedd gorchwyl pwyllgorau o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau bod y cyfrifoldeb dros y swyddogaethau a ragnodir yn Rheol Sefydlog 21 yn cael ei aseinio i bwyllgor neu bwyllgorau (y cyfeirir ato neu atynt yn Rheol Sefydlog 21 fel “pwyllgor cyfrifol”).

Cadw'r Rheol Sefydlog

21.2

Rhaid i bwyllgor cyfrifol ystyried pob offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad a chyflwyno adroddiad ar a ddylai’r Cynulliad roi sylw arbennig i'r offeryn neu’r drafft ar unrhyw un o'r seiliau canlynol:

(i) ei bod yn ymddangos bod amheuaeth a yw intra vires; 

(ii) ei bod yn ymddangos ei fod yn gwneud defnydd anarferol neu annisgwyl ar y pwerau a roddwyd gan y deddfiad y mae wedi’i wneud neu y mae i'w wneud oddi tano;

(iii) bod y deddfiad sy'n rhoi'r pŵer i’w wneud yn cynnwys darpariaethau penodol sy'n ei eithrio rhag cael ei herio yn y llysoedd;

(iv) ei bod yn ymddangos bod iddo effaith ôl-weithredol lle nad yw'r deddfiad sy’n ei awdurdodi yn rhoi awdurdod pendant ar gyfer hyn;

(v) bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol; 

(vi) ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol; 

(vii) ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft;

(viii) bod yr offeryn neu’r drafft yn defnyddio iaith ryw-benodol;

(ix) nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg;

(x) ei bod yn ymddangos bod oedi na ellir ei gyfiawnhau wedi bod wrth ei gyhoeddi neu wrth ei osod gerbron y Cynulliad; neu

(xi) ei bod yn ymddangos bod oedi na ellir ei gyfiawnhau wedi bod wrth anfon hysbysiad o dan adran 4(1) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, (fel y’i haddaswyd).

Cadw'r Rheol Sefydlog

21.3

Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried a chyflwyno adroddiad ar a ddylai’r Cynulliad roi sylw arbennig i unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad ar unrhyw un o’r seiliau canlynol: 

(i) ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath;

(ii) ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad;

(iii) ei fod yn amhriodol oherwydd newid yn yr amgylchiadau ers i’r deddfiad y mae wedi’i wneud neu y mae i’w wneud odano gael ei basio neu ei wneud ei hun; 

(iv) ei fod yn rhoi deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar waith yn amhriodol; neu

(v) nad yw’n gwireddu ei amcanion polisi yn berffaith.

Cadw'r Rheol Sefydlog

21.3A

Nid yw Rheolau Sefydlog 21.2 na 21.3 yn gymwys i unrhyw offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Cynulliad y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn gymwys iddo.

Rheol Sefydlog newydd

Mae'r Rheol Sefydlog newydd yn datgymhwyso'r gofynion uchod ar gyfer offerynau statudol drafft sy'n dod i'r pwyllgor gael eu sifftio, gan na fydd angen ystyried y materion hynny ar y pwynt hwnnw.

 

Os bydd yr offerynau statudol yn dychwelyd i'r pwyllgor ar ôl cael eu sifftio, byddai'r pwyllgor yn ystyried y materion hyn ar y pwynt hwnnw fel rhan o'r broses graffu arferol ar gyfer offerynau statudol.

21.3B

Rhaid i bwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad ar y weithdrefn briodol i'w chymhwyso i unrhyw offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Cynulliad y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn gymwys iddo.

 

Rheol Sefydlog Newydd
Mae'r Rheol Sefydlog newydd yn ei gwneud yn ofynnol i bwyllgor cyfrifol fynd ati i 'sifftio' offerynau statudol penodol yn unol â gofynion Deddf Ymadael yr UE 2018.

Mae hyn yn adlewyrchu'r argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:

“Argymhelliad 1: Rydym yn argymell y dylid diwygio Rheolau Sefydlog y Cynulliad

Cenedlaethol i ddarparu bod y swyddogaeth o wneud argymhelliad ynghylch y

weithdrefn briodol i'w defnyddio ar gyfer rheoliadau sy’n ddarostyngedig i’r broses

sifftio o dan Ddeddf 2018 yn cael ei haseinio i bwyllgor.”

 

21.3C

Rhaid i'r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 21.3B gyflwyno adroddiad ar y weithdrefn briodol gan ddefnyddio'r meini prawf a ganlyn:

(i)           a yw'r memorandwm yn ddigon clir a thryloyw ynghylch pam y mae'r llywodraeth o'r farn y dylai'r weithdrefn penderfyniad negyddol fod yn gymwys;

(ii)          a yw'r memorandwm yn ddigon clir a thryloyw ynghylch y newidiadau sy'n cael eu gwneud gan y rheoliadau;

(iii)        a fu ymgynghoriad digonol ar y rheoliadau;

(iv)         a yw'r memorandwm yn ddigon clir a thryloyw ynghylch effaith bosibl y rheoliadau ar gydraddoldeb a hawliau dynol;

(v)          a yw'r rheoliadau'n codi materion o bwys cyhoeddus, gwleidyddol neu gyfreithiol; a

(vi)         unrhyw fater arall sy’n briodol ym marn y pwyllgor.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog newydd yn nodi’r meini prawf y mae’n rhaid i’r pwyllgor cyfrifol eu defnyddio er mwyn sifftio. Mae’r meini prawf hyn yn seiliedig ar y rheini yr argymhellodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ei adroddiad gyda darpariaeth ychwanegol y gall y pwyllgor hefyd ystyried unrhyw fater arall sy’n briodol yn ei farn ef.

21.4

Rhaid i bwyllgor cyfrifol gyflwyno unrhyw adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft heb fod yn fwy nag 20 diwrnod ar ôl i'r offeryn neu'r drafft gael ei osod.

 

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

21.4A

Os bydd y deddfiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r offeryn statudol neu'r offeryn statudol drafft gael ei osod gerbron y Cynulliad yn pennu amserlen mewn perthynas ag ystyriaeth y Cynulliad o'r offeryn statudol neu'r offeryn statudol drafft, yna:

i)   ni fydd y terfyn amser yn Rheol Sefydlog 21.4 yn gymwys;

ii)  caiff y Pwyllgor Busnes sefydlu a
chyhoeddi amserlen i'r pwyllgor cyfrifol neu'r pwyllgorau cyfrifol gyflwyno adroddiad arno.

 

Cadw'r Rheol Sefydlog

21.4B

Rhaid i bwyllgor cyfrifol gyflwyno unrhyw adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3B mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol drafft heb fod yn hwyrach na 14 diwrnod ar ôl i'r offeryn drafft gael ei osod. Nid yw Rheol Sefydlog 21.4A(ii) yn gymwys i'r offerynnau statudol drafft hynny.

 

Rheol Sefydlog newydd

 

Mae'r Rheol Sefydlog newydd yn adlewyrchu gofynion Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), sy'n nodi bod gan y pwyllgor 14 diwrnod i adrodd ar offerynau statudol drafft yn amodol ar y broses sifftio.

 

21.5

Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o ddyddiau at ddibenion Rheol Sefydlog 21.4 neu 21.4B, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad wedi'i ddiddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

 

Diwygio'r Rheol Sefydlog

 

Diwygiwyd i egluro nad yw'r 14 diwrnod a ddarperir yn 21.4B yn cynnwys cyfnodau o doriad o ddiddymiad. Mae hyn yn gyson â darpariaethau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).

 

 

21.6

Nid yw Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3 yn gymwys i Orchmynion arfaethedig na drafft yn y Cyfrin Gyngor i’w gwneud, yn unol â Rheol Sefydlog 25, o dan adran 109 o’r Ddeddf nac i is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i Weithdrefn Cynulliad Arbennig o dan Reol Sefydlog 28.

Cadw'r Rheol Sefydlog

21.7

Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried y canlynol a chyflwyno adroddiadau arnynt:

(i) unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a osodir gerbron y Cynulliad ac eithrio isddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i Weithdrefn Cynulliad Arbennig o dan Reol Sefydlog 28;

(ii) pa mor briodol yw darpariaethau mewn Biliau’r Cynulliad ac mewn Biliau ar gyfer Deddfau Senedd y Deyrnas Unedig sy’n rhoi pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth i Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol;

(iii) unrhyw femorandwm cydsyniad offeryn statudol a osodir mewn perthynas ag offeryn statudol perthnasol o dan Reol Sefydlog 30A;

(iv) defnydd Gweinidogion Cymru ar bwerau cychwyn;

(v) unrhyw fater deddfwriaethol cyffredinol ei natur sy’n ymwneud â chymhwysedd y Cynulliad neu gymhwysedd Gweinidogion Cymru; neu

(vi) deddfwriaeth ddrafft sy’n destun ymgynghoriad.

Cadw'r Rheol Sefydlog

21.8

Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried deddfwriaeth ddrafft yr Undeb Ewropeaidd sy’n ymwneud â materion o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad neu â swyddogaethau Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol er mwyn ystyried a yw’n cydymffurfio ag egwyddor sybsidiaredd.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

21.9

         Os bydd pwyllgor cyfrifol yn credu nad yw deddfwriaeth ddrafft yr Undeb Ewropeaidd yn cydymffurfio ag egwyddor sybsidiaredd, caiff wneud sylwadau ysgrifenedig, ar ran y Cynulliad, i bwyllgor perthnasol Tŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi, a hynny er mwyn cynnwys y sylwadau hynny mewn resymedig i’w chyflwyno gan y pwyllgor hwnnw i awdurdodau perthnasol yr Undeb Ewropeaidd.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

21.10

         Os bydd pwyllgor cyfrifol yn gwneud sylwadau ysgrifenedig yn unol â Rheol Sefydlog 21.9, rhaid iddo osod copi o’r sylwadau ysgrifenedig hynny gerbron y Cynulliad.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

21.11

         Caiff pwyllgor cyfrifol, at ddiben galluogi arfer ei swyddogaethau o dan Reol Sefydlog 21.9 yn ystod unrhyw wythnos pan na fydd y Cynulliad yn cwrdd, ddirprwyo’r swyddogaethau hynny i gadeirydd y pwyllgor cyfrifol, a rhaid i’r cadeirydd hwnnw, os caiff y swyddogaethau hynny eu harfer, hysbysu’r pwyllgor cyfrifol am y ffaith honno cyn gynted â phosibl.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

 

 RHEOL SEFYDLOG 27 – Is-ddeddfwriaeth (ac eithrio Is-ddeddfwriaeth sy'n Ddarostyngedig i Weithdrefn Cynulliad Arbennig) 

 

Memoranda Esboniadol

 

27.1

Rhaid cael Memorandwm Esboniadol i gyd-fynd ag unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Cynulliad a rhaid i’r Memorandwm Esboniadol gynnwys unrhyw Asesiad Effaith Reoliadol a baratoir mewn perthynas â’r offeryn.

Cadw'r Rheol Sefydlog

27.1A

Rhaid i unrhyw Femorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Cynulliad y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn gymwys iddo gynnwys y datganiad a'r rhesymeg sy'n ofynnol gan baragraff 4(3) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. 

 

Rheol Sefydlog newydd

Mae'r ddarpariaeth newydd yn adlewyrchu'r gofyniad yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) bod rhaid i Weinidogion Cymru egluro eu rhesymau dros ddweud y dylai offeryn statudol drafft fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol.

 

Cynnig ar gyfer Dirymu (Gweithdrefn Penderfyniad Negyddol)

 

27.2

Yn achos unrhyw offeryn statudol:

(i) sy’n agored i gael ei ddirymu yn unol â phenderfyniad gan y Cynulliad; neu

(ii) sy’n cael ei osod ar ffurf drafft ond nad yw’n gallu cael ei wneud os caiff y drafft ei anghymeradwyo,

caiff y Cynulliad, heb fod yn hwyrach na 40 diwrnod ar ôl i’r offeryn gael ei osod, benderfynu i ddirymu’r offeryn neu, yn ôl fel y digwydd, i anghymeradwyo’r drafft. 

Cadw'r Rheol Sefydlog

Gan nad yw offerynau statudol a osodir i'w sifftio yn destun dirymiad, neu gan na ellir eu gwneud os cânt eu gosod ar ffurff drafft a bod y drafft yn cael ei anghymeradwyo – ac felly fe'u gosodir yn syml i'w hystyried o dan y weithdrefn sifftio – nid ydynt yn ddarostyngedig i'r Rheol Sefydlog hon.

27.3

Caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig sydd i’w benderfynu o dan Reol Sefydlog 27.2.

Cadw'r Rheol Sefydlog

27.4

Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig sydd i’w benderfynu o dan Reol Sefydlog 27.2.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

Cynnig ar gyfer Cymeradwyo (Gweithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol)

 

27.5

Yn achos unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Cynulliad nad yw, oni bai bod y Cynulliad yn ei gymeradwyo drwy gynnig, yn gallu:

(i) cael ei wneud;

(ii) dod i rym; neu

(iii)   parhau mewn grym ar ôl y cyfnod a bennwyd yn y deddfiad sy'n rhoi'r pŵer i wneud yr offeryn,

caiff unrhyw aelod o'r llywodraeth gyflwyno cynnig o dan Reol 27.5 i gymeradwyo'r offeryn neu'r offeryn drafft.

 

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

 

 

27.6

Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o dan Reol Sefydlog 27.5.

Cadw'r Rheol Sefydlog

27.7

Ni chaniateir ystyried cynnig o dan Reol Sefydlog 27.5 yn y cyfarfod llawn nes y bydd naill ai:

(i)             (i) y pwyllgor sy'n gyfrifol am y swyddogaethau a ragnodir yn Rheolau Sefydlog 21.2, 21.3 a 27.8A (lle y bo’n berthnasol) ac unrhyw bwyllgor arall, sydd wedi rhoi'r hysbysiad a grybwyllir yn Rheol Sefydlog 27.8, wedi cyflwyno adroddiad ar yr offeryn neu'r drafft; neu 

(ii)           20 diwrnod wedi mynd heibio ers i'r offeryn neu'r offeryn drafft gael ei osod,

pa un bynnag yw'r cyntaf.

 

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

27.7A

Os bydd y deddfiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r offeryn statudol neu'r offeryn statudol drafft gael ei osod gerbron y Cynulliad yn pennu amserlen mewn perthynas ag ystyriaeth y Cynulliad o'r offeryn statudol neu'r offeryn statudol drafft, ni fydd Rheol Sefydlog 27.7 yn gymwys.

Cadw'r Rheol Sefydlog

27.8

Os bydd unrhyw bwyllgor, ac eithrio’r pwyllgor sy’n gyfrifol am y swyddogaethau a ragnodir yn Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3, yn bwriadu cyflwyno adroddiad ar offeryn neu offeryn drafft y mae Rheol Sefydlog 27.5 yn gymwys iddo, rhaid iddo roi hysbysiad i’r llywodraeth ei fod yn bwriadu gwneud hynny heb fod yn hwyrach na saith diwrnod ar ôl i’r offeryn neu’r drafft gael ei osod.

Cadw'r Rheol Sefydlog

27.8A

Caiff y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 19 ystyried unrhyw offeryn neu offeryn drafft sy’n ymwneud â threthi datganoledig y mae Rheol Sefydlog 27.5 yn gymwys iddo, yn ogystal â’r pwyllgor sy’n gyfrifol am y swyddogaethau a nodir yn Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3.  Nid yw Rheol Sefydlog 27.8 yn gymwys i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 19 mewn perthynas ag unrhyw gyfryw offeryn neu offeryn drafft.

Diwygio'r Rheol Sefydlog

 

Mae'r newid i'r Rheol Sefydlog hwn yn ei gwneud yn glir mai dim ond i offerynau statudol cadarnhaol y mae'n gymwys ac felly nid yw'n berthnasol i offerynau statudol a osodwyd ar gyfer sifftio.

27.9

Os bydd unrhyw bwyllgor yn ystyried unrhyw offeryn neu offeryn drafft y mae Rheol Sefydlog 27.5 yn gymwys iddo, caiff yr aelod o’r llywodraeth a’i gosododd (neu aelod arall o’r llywodraeth a enwebir gan Brif Weinidog Cymru i fod yn gyfrifol amdano) fod yn bresennol yn y pwyllgor a chymryd rhan yn nhrafodion y pwyllgor sy’n ymwneud â’r offeryn neu’r drafft ond ni chaiff bleidleisio.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

Offerynnau Statudol Drafft y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn gymwys iddynt

Pennawd newydd

27.9A

Rhaid i aelod o'r llywodraeth osod unrhyw offeryn statudol drafft y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn gymwys iddo.

Rheol Sefydlog newydd

27.9B

Os:

(i)      cyflwynodd y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 21.3B adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 21.4B gydag argymhelliad mai'r weithdrefn gadarnhaol yw'r weithdrefn briodol ar gyfer offeryn; a

(ii)    bod Gweinidogion Cymru o'r farn serch hynny mai'r weithdrefn briodol ar gyfer yr offeryn yw'r weithdrefn penderfyniad negyddol;

rhaid i’r Memorandwm Esboniadol a osodir yn unol â Rheol Sefydlog 27.1 esbonio pam nad yw Gweinidogion Cymru yn derbyn argymhelliad y pwyllgor.

Rheol Sefydlog newydd

 

Mae'r Rheol Sefydlog newydd yn seiliedig ar ddarpariaeth a nodwyd yn y Ddeddf Ymadael yn ystod cyfnod o fynd yn ôl ac ymlaen mewn perthynas â Senedd y DU. Gan nad oedd amser i gael cydsyniad gan y seneddau datganoledig, ni ychwanegwyd darpariaeth o'r fath mewn perthynas â'r Cynulliad.

 

Bwriedir iddo gynnwys y Rheol Sefydlog newydd i gynnal cysondeb a sicrhau cymaint o dryloywder â phosibl o ran proses sifftio'r Cynulliad.

 

Argymhellodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:

“Argymhelliad 3: Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn fodlon na fydd ein hargymhellion ni fel y pwyllgor sifftio yn rhwymol, rydym yn argymell y dylid diwygio'r Rheolau Sefydlog i’w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru esbonio pam nad ydynt yn derbyn ein hargymhellion (fel sy'n gymwys i Weinidogion y DU ym mharagraff 3(7) o Atodlen 7 i Ddeddf 2018).”

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes ailadrodd y gofyniad y mae’r Ddeddf yn ei roi ar Weinidogion y DU i roi cyfrif i'r ddeddfwrfa am ei benderfyniad i beidio â derbyn argymhelliad cyn y weithred o wneud yr offeryn.

Fodd bynnag, penderfynodd y Pwyllgor Busnes y caiff manteision gwahanu’r datganiad a’r offeryn eu gwrthbwyso gan fanteision ymarferol cynnig amgen gan Lywodraeth Cymru a oedd i roi cyfrif i’r ddeddfwrfa am ei benderfyniad i beidio â derbyn argymhelliad drwy nodi ei esboniad yn y memorandwm esboniadol ochr yn ochr â'r wybodaeth arall a ddarperir i gynorthwyo â'r gwaith o graffu ar yr offeryn pan gaiff ei osod. 

 

 

 

Peidio â Diwygio Offerynnau

 

27.10

Ni chaniateir diwygio offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae Rheolau Sefydlog 27.2 neu 27.5 yn gymwys iddo.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

Tynnu Offerynnau yn ôl

 

27.11

Caniateir i offeryn statudol neu offeryn statudol drafft a osodwyd gerbron y Cynulliad gael ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg gan yr aelod o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am yr offeryn hwnnw.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

Cyfrifo Dyddiau

 

27.12

Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o ddyddiau at ddibenion Rheol Sefydlog 27, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad wedi’i ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

Cynigion Eraill mewn Perthynas ag Offerynnau neu Offerynnau Drafft

 

27.13

Nid yw Rheolau Sefydlog 27.1 i 27.9 yn rhagfarnu hawl unrhyw Aelod i gyflwyno unrhyw gynnig arall mewn perthynas ag offeryn neu offeryn drafft.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

Cymhwyso’r Rheol Sefydlog at Is-ddeddfwriaeth Arall

 

27.14

Mae Rheolau Sefydlog 27.1 i 27.13 yn gymwys hefyd, gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol, i unrhyw is-ddeddfwriaeth arall (ac eithrio isddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i’r Weithdrefn Cynulliad Arbennig o dan Reol Sefydlog 28) ar ffurf adroddiad, canllawiau, cod ymarfer neu ddogfen arall y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddynt:

cael eu gosod gerbron y Cynulliad, a

bod yn ddarostyngedig i unrhyw fath o weithdrefn Cynulliad sydd â’r un effaith neu effaith gyfatebol i’r rhai a grybwyllir yn Rheol Sefydlog 27.2 neu 27.5.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

RHEOL SEFYDLOG 30B – Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU o dan y Ddeddf sy'n cyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru dros dro

Pennawd Rheol Sefydlog newydd

 

Rheoliadau a wneir gan un o Weinidogion y Goron o dan adrannau 109A ac 80(8) o'r Ddeddf

Pennawd newydd

30B.1

Yn Rheol Sefydlog 30B, ystyr "rheoliadau drafft perthnasol" yw rheoliadau drafft y mae un o Weinidogion y Goron yn cynnig eu gosod gerbron Senedd y DU, yn unol ag adran 109A neu 80(8) o'r Ddeddf.

Rheol Sefydlog newydd

Mewnosodwyd adrannau 109A ac 80(8) i Ddeddf Llywodraeth Cymru (y Ddeddf) gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Mae rheoliadau a osodir gan Weinidogion y DU o dan adrannau 109A neu 80(8) yn cyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru dros dro.

 

Mae'r Rheol Sefydlog hon a'r rhai canlynol yn adlewyrchu argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:

“Argymhelliad 9: Rydym yn argymell y dylid diwygio Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol i ddarparu gweithdrefn mewn perthynas â'r darpariaethau yn adran 109A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn arbennig:

– i wneud memorandwm esboniadol yn ofynnol sydd

– yn crynhoi effaith rheoliadau y mae Gweinidogion y DU yn bwriadu eu gosod o dan adran 109A (3) o Ddeddf 2006;

– yn gwneud argymhellion o ran a ddylid gwneud y rheoliadau drafft perthnasol yn ddiweddarach gan Weinidogion y DU;

– yn esbonio'r rhesymau dros wneud yr argymhelliad;

– i'w gwneud yn ofynnol i'r Pwyllgor Busnes gyfeirio'r memorandwm esboniadol hwnnw at bwyllgor neu bwyllgorau;

– i’w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol unrhyw ddatganiad ysgrifenedig a roddwyd i Weinidogion y DU (h.y. y datganiad a grybwyllwyd yn adran 157ZA(2)(b)(ii) newydd o Ddeddf 2006), heb fod yn hwyrach nag un diwrnod gwaith ar ôl i Weinidogion Cymru roi'r datganiad.”

“Argymhelliad 10: Rydym yn argymell bod manylder argymhelliad 10 yr un mor gymwys o ran y darpariaethau yn adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.”

30B.2

Rhaid i Weinidogion Cymru osod rheoliadau drafft perthnasol gerbron y Cynulliad heb fod yn hwyrach nag un diwrnod gwaith ar ôl iddynt gael copi ohonynt yn unol ag adran 109A(6)(a) neu 80(8F)(a) o'r Ddeddf.

Rheol Sefydlog newydd

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion y DU ddarparu copi o unrhyw reoliadau drafft i Weinidogion Cymru. Mae'r Rheol Sefydlog newydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod y rhain gerbron y Cynulliad o fewn un diwrnod gwaith ar ôl iddynt gael copi ohonynt.

 

Memorandwm Penderfyniad Cydsynio

Pennawd newydd

30B.3

Rhaid i aelod o'r llywodraeth osod memorandwm ("memorandwm penderfyniad cydsynio") mewn perthynas ag unrhyw reoliadau drafft perthnasol heb fod yn hwyrach na saith diwrnod ar ôl i gopi o'r rheoliadau drafft perthnasol gael ei ddarparu i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 109A(6)(a) neu 80(8F)(a) o'r Ddeddf.

 

Rheol Sefydlog newydd

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad gael y cyfle i wneud penderfyniad cydsyniad mewn perthynas ag unrhyw reoliadau drafft o'r fath.

Mae'r Rheol Sefydlog newydd yn adeiladu ar ddarpariaethau presennol Rheolau Sefydlog 29 a 30A drwy ei gwneud yn ofynnol i'r llywodraeth osod memorandwm fel sail i'r Cynulliad ystyried a ddylid rhoi cydsyniad.

30B.4

Rhaid i femorandwm penderfyniad cydsynio:

(i)             crynhoi effaith y rheoliadau drafft perthnasol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu swyddogaethau Gweinidogion Cymru;

(ii)           gwneud argymhellion o ran a ddylai'r rheoliadau drafft perthnasol gael eu cymeradwyo wedi hynny gan Weinidogion y DU;

(iii)         esbonio'r rhesymau dros yr argymhelliad a wnaed yn (ii);

Rheol Sefydlog newydd

 

Byddai'r wybodaeth a nodir yn y memorandwm yn cynorthwyo'r Cynulliad i ddod i benderfyniad gwybodus mewn perthynas â'r memorandwm penderfyniad cydsynio.

30B.5

Rhaid i'r Pwyllgor Busnes gyfeirio unrhyw femorandwm

penderfyniad cydsynio at bwyllgor neu bwyllgorau i'w

ystyried.

 

Rheol Sefydlog newydd

Fel yn Rheolau Sefydlog 29 a 30A, cynigir bod y Pwyllgor Busnes yn penderfynu pa bwyllgor ddylai ystyried y memorandwm penderfyniad cydsynio. Yn wahanol i Reolau Sefydlog 29 a 30A, nid yw'r gofyniad hwn ar y Pwyllgor Busnes yn amodol ar y geiriau 'fel rheol', gan fod y ffenestr ar gyfer ystyried y penderfyniad gan y Cynulliad yn cael ei ddiogelu gan statud, yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd gyda LCMs a SICMs. Am yr un rheswm, nid yw'n ofynnol i'r Pwyllgor Busnes yn yr achos hwn osod amserlen i'r pwyllgor ei ystyried.

 

Cynnig Penderfyniad Cydsynio

Pennawd newydd

30B.6

Ar ôl gosod memorandwm penderfyniad cydsynio, a heb fod yn hwyrach na 33 diwrnod ar ôl i Weinidogion Cymru gael copi o’r rheoliadau drafft perthnasol yn unol ag adran 109A(6)(a) neu 80(8F)(a) o’r Ddeddf, rhaid i aelod o'r llywodraeth osod cynnig ("cynnig penderfyniad cydsynio") ar gyfer penderfyniad naill ai'n rhoi neu'n gwrthod cydsyniad y Cynulliad i osod y rheoliadau drafft perthnasol gerbron Senedd y DU.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog newydd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynnig i alluogi’r Cynulliad i ddod i benderfyniad cydsynio o fewn y terfyn amser o 40 diwrnod a bennir yn y Ddeddf.

Mae’r dull hwn yn wahanol i’r gweithdrefnau ar gyfer mathau eraill o gydsyniad y Cynulliad, fel Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 30A, ac er ei fod yn briodol o dan yr amgylchiadau hyn (a bennir yn fanwl mewn statud), nid yw’n gosod cynsail mewn perthynas â’r gweithdrefnau eraill hynny.

30B.7

Rhaid i'r Cynulliad ystyried cynnig penderfyniad cydsynio sydd wedi'i gyflwyno.

Rheol Sefydlog newydd

Mae'n ailadrodd darpariaethau Rheol Sefydlog 29 a 30A sy'n ei gwneud yn ofynnol ystyried cynnig o'r fath.

30B.8

Ni chaniateir i gynnig penderfyniad cydsynio gael ei drafod nes y bydd naill ai:

(i)     y pwyllgor neu'r pwyllgorau wedi cyflwyno adroddiad ar y memorandwm penderfyniad cydsynio cysylltiedig; neu

(ii)    33 diwrnod wedi mynd heibio ers i Weinidogion Cymru gael copi o'r rheoliadau drafft perthnasol yn unol ag adran 109A(6)(a) neu 80(8F)(a) o'r Ddeddf.

Rheol Sefydlog newydd

Yn wahanol i LCMs a SICMs o dan Reol Sefydlog 29 a 30A, ni chynigir bod y Pwyllgor Busnes yn gosod amserlen i'r pwyllgor ystyried y memorandwm gan fod yr amserlen honno wedi'i nodi mewn statud.

Felly, mae'r Rheol Sefydlog yn nodi na ellir ystyried y cynnig penderfyniad cydsynio nes y bydd naill ai'r pwyllgor wedi cyflwyno adroddiad neu bod 33 diwrnod wedi mynd heibio ers i Weinidogion Cymru gael copi o'r rheoliadau, gan sicrhau bod y terfyn amser 40 diwrnod ym Mil yr UE (Ymadael) yn cael ei fodloni.

 

Cyfrifo Dyddiau

Pennawd newydd

30B.9

Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o ddyddiau at ddibenion Rheol Sefydlog 30A, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad wedi’i ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.

Pennawd newydd

Yn adlewyrchu darpariaethau Deddf yr UE (Ymadael), ac sy'n arferol fel a nodir yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad.

 

Datganiadau Ysgrifenedig

Pennawd newydd

30B.10

Rhaid i aelod o'r llywodraeth osod gerbron y Cynullaid unrhyw ddatganiad ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru i Weinidog y Goron fel a grybwyllwyd yn adran 157ZA(2)(b)(ii) o'r Ddeddf, a hynny heb fod yn hwyrach nag un diwrnod gwaith fel rheol ar ôl darparu'r datganiad.  

Mae Deddf Ymadael yr UE yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion y DU osod gerbron y Senedd unrhyw ddatganiad gan Weinidogion Cymru ynghylch penderfyniad cydsynio gan y Cynulliad, ond nid yw'n ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu datganiad o'r fath.

Fodd bynnag, Mae'r Cytundeb Rhynglywodraethol yn nodi y bydd Gweinidogion Cymru yn darparu datganiad ysgrifenedig i Senedd y DU yn nodi pam na roddwyd cydsyniad y ddeddfwrfa yn eu barn hwy ( ail baragraff 7(e)).

Mae'r Rheol Sefydlog arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i ddatganiad o'r fath a ddarperir gan Weinidogion Cymru gael ei osod gerbron y Cynulliad.

 

Adroddiadau mewn Cysylltiad â Chyfyngiadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir

Pennawd newydd

30B.11

Rhaid i aelod o'r llywodraeth osod gerbron y Cynulliad gopi o unrhyw adroddiad a ddarperir i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 4(4) o Ran 2 o Atodlen 3 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 heb fod yn hwyrach nag un diwrnod gwaith ar ôl i'r adroddiad ddod i law.

Rheol Sefydlog newydd

Argymhellodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol fod y Cynulliad "yn sefydlu gweithdrefnau i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i'r Cynulliad sy'n ymwneud â phroses yr Adran 109A newydd, gan gynnwys adroddiadau tri misol Gweinidogion y DU i Senedd y DU ac i hysbysu'r Cynulliad pan fo cyfyngiadau penodedig yn cael eu diddymu neu eu dirymu" a "bod Gweinidogion Cymru yn gosod adroddiadau sy'n ymwneud â'r cyfyngiadau ar gyfraith yr UE a ddargedwir gerbron y Cynulliad cyn gynted ag y byddant yn dod i law gan un o Weinidogion y Goron. Dylid archwilio unrhyw fesurau deddfwriaethol neu weithdrefnol sydd ar gael i sicrhau bod hyn yn digwydd."

Yn dilyn hynny, argymhellodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:

“Argymhelliad 11: Rydym yn argymell ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru,

yn ôl Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol,

osod unrhyw adroddiad a ddarperir iddynt yn unol â pharagraff 4(4) o Ran 2 o Atodlen 3 i Ddeddf 2018,

 a hynny o fewn un diwrnod gwaith iddo ddod i law."

30B.12

Mewn perthynas ag unrhyw reoliadau drafft a fyddai, os cânt eu cymeradwyo gan Senedd y DU, yn dirymu cyfyngiadau cyfraith yr UE a ddargedwir a osodir ar y Cynulliad neu Weinidogion Cymru o dan adran 109A neu 80(8) o'r Ddeddf, rhaid i aelod o'r llywodraeth osod gerbron y Cynulliad ddatganiad yn esbonio'r effaith y byddai'r rheoliadau drafft yn ei chael ar gymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, heb fod yn hwyrach na saith diwrnod ar ôl i'r rheoliadau drafft gael eu gosod gerbron Senedd y DU.

Rheol Sefydlog newydd

Argymhellodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:

“Argymhelliad 12: Pan fydd Llywodraeth y DU yn diddymu neu'n dirymu cyfyngiadau cyfraith yr UE a ddargedwir (o ran cymhwysedd deddfwriaethol a chymhwysedd gweithredol), rydym yn argymell ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru, yn ôl Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol, wneud datganiad ysgrifenedig:

- bod cyfyngiadau cyfraith yr UE wedi'u codi, heb fod yn hwyrach na 7 diwrnod calendr ar ôl;

i'r rheoliadau perthnasol gael eu gosod;

- sy’n esbonio effaith dileu'r cyfyngiadau ar gymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol neu Weinidogion Cymru.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

RHEOL SEFYDLOG 30C - Hysbysu mewn perthynas ag Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 na chânt eu gosod gerbron y Cynulliad.

Rheol Sefydlog newydd

 

Offerynnau Statudol y mae angen hysbysu'r Cynulliad yn eu cylch

Pennawd newydd

30C.1

Yn Rheol Sefydlog 30C, ystyr "offeryn statudol perthnasol" yw offeryn statudol, neu offeryn statudol drafft, a wnaed, neu sydd i'w gwneud, gan Weinidog y DU sy'n gweithredu ar ei ben ei hun o dan adrannau 8, 9 neu 23 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 neu Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, sy'n cynnwys darpariaeth o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru.

 

Rheol Sefydlog newydd

Mae'r Rheol Sefydlog arfaethedig yn diffinio'r Offerynnau Statudol y mae'r weithdrefn hon yn gymwys iddynt. Offerynnau Statudol yw'r rhain a wneir gan Weinidogion y DU sy'n gweithredu ar eu pen eu hunain, o fewn cymhwysedd Gweinidogion Cymru neu'r Cynulliad, o dan Ddeddf Ymadael yr Undeb Ewropeaidd.

 

Datganiadau Ysgrifenedig mewn perthynas ag Offerynnau Statudol Perthnasol

Pennawd newydd

30C.2

Rhaid i aelod o'r llywodraeth osod datganiad ysgrifenedig yn rhoi hysbysiad o unrhyw offeryn statudol perthnasol, fel arfer o fewn tri diwrnod gwaith ar ôl ei osod gerbron Senedd y DU.

Rheol Sefydlog newydd

Mae'r Rheol Sefydlog arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i aelod o'r llywodraeth osod datganiad gerbron y Cynulliad mewn perthynas ag unrhyw Offeryn Statudol perthnasol. Mae hwn a'r Rheol Sefydlog isod yn adlewyrchu argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gyda rhai addasiadau i'r fformat a'r cyfnodau amser o ran yr hyn sy'n ofynnol er mwyn ystyried yr ystyriaethau ymarferol:

“Argymhelliad 7: Rydym yn argymell bod Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol, lle y bo Gweinidogion y DU yn gweithio ar eu pen eu hunain mewn meysydd datganoledig yn gosod gerbron Senedd y DU reoliadau mewn meysydd sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru, a lle ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru gydsynio i wneud y rheoliadau hynny:

- bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn un diwrnod gwaith i osod y rheoliadau; a

- bod memorandwm esboniadol yn cyd-fynd â hysbysiad o'r fath yn crynhoi diben ac effaith y rheoliadau ac yn esbonio pam mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi eu cydsyniad."

“Argymhelliad 8: Rydym yn argymell bod Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol, lle y bo Gweinidogion y DU yn gweithio ar eu pen eu hunain yn gosod gerbron Senedd y DU reoliadau mewn meysydd sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru, a lle nad yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru gydsynio i wneud y rheoliadau hynny:

- bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn un diwrnod gwaith i osod y rheoliadau; a

- bod memorandwm esboniadol yn cyd-fynd â hysbysiad o'r fath yn crynhoi diben ac effaith y rheoliadau."

 

30C.3

Rhaid i'r datganiad ysgrifenedig:

(i)         crynhoi diben yr offeryn statudol;        

(ii)       nodi unrhyw effaith y caiff yr offeryn statudol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a / neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru; a

(iii)     pan fo Gweinidogion Cymru wedi cydsynio i Weinidogion y DU wneud yr offerynnau statudol perthnasol, esbonio'r rhesymau pam y rhoddwyd cydsyniad.

Rheol Sefydlog newydd

Mae'r Rheol Sefydlog arfaethedig yn nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei darparu yn y datganiad o dan Reol Sefydlog 30C.2.

 

 

 

 

 

 

 


Atodiad B

RHEOL SEFYDLOG 21 – Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Y Pwyllgor neu Bwyllgorau

21.1        Wrth gynnig cylchoedd gorchwyl pwyllgorau o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau bod y cyfrifoldeb dros y swyddogaethau a bennir yn Rheol Sefydlog 21 yn cael ei aseinio i bwyllgor neu bwyllgorau (y cyfeirir ato neu atynt yn Rheol Sefydlog 21 fel “pwyllgor cyfrifol”).

Swyddogaethau

21.2        Rhaid i bwyllgor cyfrifol ystyried pob offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad a chyflwyno adroddiad ar a ddylai’r Cynulliad roi sylw arbennig i'r offeryn neu’r drafft ar unrhyw un o'r seiliau canlynol:

(i)        ei bod yn ymddangos bod amheuaeth a yw intra vires; 

(ii)      ei bod yn ymddangos ei fod yn gwneud defnydd anarferol neu annisgwyl o'r pwerau a roddwyd gan y deddfiad y mae wedi’i wneud neu y mae i'w wneud oddi tanodd;

(iii)     bod y deddfiad sy'n rhoi'r pŵer i’w wneud yn cynnwys darpariaethau penodol sy'n ei eithrio rhag cael ei herio yn y llysoedd;

(iv)     ei bod yn ymddangos bod iddo effaith ôl-weithredol lle nad yw'r deddfiad sy’n ei awdurdodi yn rhoi awdurdod pendant ar gyfer hyn;

(v)       bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol;

(vi)     ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol; 

(vii)    ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr y testun yn y Gymraeg a'r Saesneg;

(viii)  bod yr offeryn neu’r drafft yn defnyddio iaith ryw-benodol;

(ix)     nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg;

(x)      ei bod yn ymddangos bod oedi na ellir ei gyfiawnhau wedi bod wrth ei gyhoeddi neu wrth ei osod gerbron y Cynulliad; neu

(xi)     ei bod yn ymddangos bod oedi na ellir ei gyfiawnhau wedi bod wrth anfon hysbysiad o dan adran 4(1) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, (fel y’i haddaswyd).

21.3        Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried a chyflwyno adroddiad ar a ddylai’r Cynulliad roi sylw arbennig i unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad ar unrhyw un o’r seiliau canlynol: 

(i)        ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath;

(ii)      ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r

(iii)     ei fod yn amhriodol oherwydd newid yn yr amgylchiadau ers i’r deddfiad y mae wedi’i wneud neu y mae i’w wneud odano gael ei basio neu ei wneud ei hun; 

(iv)     ei fod yn rhoi deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar waith yn amhriodol; neu

(v)       nad yw’n gwireddu ei amcanion polisi yn berffaith;

21.3A      Nid yw Rheolau Sefydlog 21.2 na 21.3 yn gymwys i unrhyw offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Cynulliad y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn gymwys iddo.

21.3B      Rhaid i bwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad ar y weithdrefn briodol i'w chymhwyso i unrhyw offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Cynulliad y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn gymwys iddo.

21.3C      Rhaid i'r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 21.3B gyflwyno adroddiad ar y weithdrefn briodol gan ddefnyddio'r meini prawf a ganlyn:

(i)        a yw'r memorandwm yn ddigon clir a thryloyw ynghylch pam y mae'r llywodraeth o'r farn y dylai'r weithdrefn penderfyniad negyddol fod yn gymwys;

(ii)      a yw'r memorandwm yn ddigon clir a thryloyw ynghylch y newidiadau sy'n cael eu gwneud gan y rheoliadau;

(iii)     a fu ymgynghoriad digonol ar y rheoliadau;

(iv)     a yw'r memorandwm yn ddigon clir a thryloyw ynghylch effaith bosibl y rheoliadau ar gydraddoldeb a hawliau dynol;

(v)       a yw'r rheoliadau'n codi materion o bwys cyhoeddus, gwleidyddol neu gyfreithiol; a

(vi)     unrhyw fater arall sy’n briodol ym marn y pwyllgor.

21.4         Rhaid i bwyllgor cyfrifol gyflwyno unrhyw adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft heb fod yn fwy nag 20 diwrnod ar ôl i'r offeryn neu'r drafft gael ei osod.

21.4A          Os bydd y deddfiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r offeryn statudol neu'r offeryn statudol drafft gael ei osod gerbron y Cynulliad yn pennu amserlen mewn perthynas ag ystyriaeth y Cynulliad o'r offeryn statudol neu'r offeryn statudol drafft, yna:

(i)        ni fydd y terfyn amser yn Rheol Sefydlog 21.4 yn gymwys;

(ii)      caiff y Pwyllgor Busnes sefydlu a chyhoeddi amserlen i'r pwyllgor cyfrifol neu'r pwyllgorau cyfrifol gyflwyno adroddiad arno.

21.4B          Rhaid i bwyllgor cyfrifol gyflwyno unrhyw adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3B mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol drafft heb fod yn hwyrach na 14 diwrnod ar ôl i'r offeryn drafft gael ei osod. Nid yw Rheol Sefydlog 21.4A(ii) yn gymwys i'r offerynnau statudol drafft hynny.

21.5            Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o ddyddiau at ddibenion Rheol Sefydlog 21.4 neu 21.4B, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad wedi'i ddiddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

21.6            Nid yw Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3 yn gymwys i Orchmynion arfaethedig na drafft yn y Cyfrin Gyngor i’w gwneud, yn unol â Rheol Sefydlog 25, o dan adran 109 o’r Ddeddf nac i is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i Weithdrefn Cynulliad Arbennig o dan Reol Sefydlog 28.

21.7            Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried y canlynol a chyflwyno adroddiadau arnynt:

(i)        unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a osodir gerbron y Cynulliad ac eithrio is-ddeddfwriaeth sy'n ddarostyngedig i Weithdrefn Cynulliad Arbennig o dan Reol Sefydlog 28;

(ii)      pa mor briodol yw’r darpariaethau ym Miliau’r Cynulliad ac ym Miliau ar gyfer Deddfau Senedd y Deyrnas Unedig sy’n rhoi pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth i Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol; 

(iii)     unrhyw femorandwm cydsyniad offeryn statudol a osodir mewn perthynas ag offeryn statudol perthnasol o dan Reol Sefydlog 30A;

(iv)     defnydd Gweinidogion Cymru ar bwerau cychwyn;

(v)       unrhyw fater deddfwriaethol cyffredinol ei natur sy’n ymwneud â chymhwysedd y Cynulliad neu gymhwysedd Gweinidogion

(vi)     Cymru; neu deddfwriaeth ddrafft sy’n destun ymgynghoriad.

21.8        Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried deddfwriaeth ddrafft yr Undeb Ewropeaidd sy’n ymwneud â materion o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad neu â swyddogaethau Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol er mwyn ystyried a yw’n cydymffurfio ag egwyddor sybsidiaredd.

21.0        Os bydd pwyllgor cyfrifol yn credu nad yw deddfwriaeth ddrafft yr Undeb Ewropeaidd yn cydymffurfio ag egwyddor sybsidiaredd, caiff wneud sylwadau ysgrifenedig, ar ran y Cynulliad, i bwyllgor perthnasol Tŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi, a hynny er mwyn cynnwys y sylwadau hynny mewn resymedig i’w chyflwyno gan y pwyllgor hwnnw i awdurdodau perthnasol yr Undeb Ewropeaidd.

21.10      Os bydd pwyllgor cyfrifol yn gwneud sylwadau ysgrifenedig yn unol â Rheol Sefydlog 21.9, rhaid iddo osod copi o’r sylwadau ysgrifenedig hynny gerbron y Cynulliad.

21.11      Caiff pwyllgor cyfrifol, at ddiben galluogi arfer ei swyddogaethau o dan Reol Sefydlog 21.9 yn ystod unrhyw wythnos pan na fydd y Cynulliad yn cwrdd, ddirprwyo’r swyddogaethau hynny i gadeirydd y pwyllgor cyfrifol, a rhaid i’r cadeirydd hwnnw, os caiff y swyddogaethau hynny eu harfer, hysbysu’r pwyllgor cyfrifol am y ffaith honno cyn gynted â phosibl.

 

RHEOL SEFYDLOG 27 – Is-ddeddfwriaeth (ac eithrio Is-ddeddfwriaeth sy'n Ddarostyngedig i Weithdrefn Cynulliad Arbennig) 

27.1        Rhaid cael Memorandwm Esboniadol i gyd-fynd ag unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Cynulliad a rhaid i’r Memorandwm Esboniadol gynnwys unrhyw Asesiad Effaith Reoliadol a baratoir mewn perthynas â’r offeryn.

 

27.1A        Rhaid i unrhyw Femorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Cynulliad y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn gymwys iddo gynnwys y datganiad a'r rhesymeg sy'n ofynnol gan baragraff 4(3) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. 

Cynnig ar gyfer Dirymu (Gweithdrefn Penderfyniad Negyddol)

27.2          Yn achos unrhyw offeryn statudol:

(i) sy’n agored i gael ei ddirymu yn unol â phenderfyniad gan y Cynulliad; neu

(ii) sy’n cael ei osod ar ffurf drafft ond nad yw’n gallu cael ei wneud os caiff y drafft ei anghymeradwyo,

caiff y Cynulliad, heb fod yn hwyrach na 40 diwrnod ar ôl i’r offeryn gael ei osod, benderfynu i ddirymu’r offeryn neu, yn ôl fel y digwydd, i anghymeradwyo’r drafft. 

27.3            Caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig sydd i’w benderfynu o dan Reol Sefydlog 27.2.

27.4            Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig sydd i’w benderfynu o dan Reol Sefydlog 27.2.

Cynnig ar gyfer Cymeradwyo (Gweithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol)

 

27.5            Yn achos unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Cynulliad nad yw, oni bai bod y Cynulliad yn ei gymeradwyo drwy gynnig, yn gallu:

(i) cael ei wneud;

(ii) dod i rym; neu

(iii)   parhau mewn grym ar ôl y cyfnod a bennwyd yn y deddfiad sy'n rhoi'r pŵer i wneud yr offeryn,

caiff unrhyw aelod o'r llywodraeth gyflwyno cynnig o dan Reol 27.5 i gymeradwyo'r offeryn neu'r offeryn drafft.

27.6        Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o dan Reol Sefydlog 27.5.

27.7        Ni chaniateir ystyried cynnig o dan Reol Sefydlog 27.5 yn y cyfarfod llawn nes y bydd naill ai:

(i) y pwyllgor sy'n gyfrifol am y swyddogaethau a ragnodir yn Rheolau Sefydlog 21.2, 21.3 a 27.8A (lle y bo’n berthnasol) ac unrhyw bwyllgor arall, sydd wedi rhoi'r hysbysiad a grybwyllir yn Rheol Sefydlog 27.8, wedi cyflwyno adroddiad ar yr offeryn neu'r drafft; neu 

(ii) 20 diwrnod wedi mynd heibio ers i'r offeryn neu'r offeryn drafft gael ei osod;

pa un bynnag yw'r cyntaf.

27.7A      Os bydd y deddfiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r offeryn statudol neu'r offeryn statudol drafft gael ei osod gerbron y Cynulliad yn pennu amserlen mewn perthynas ag ystyriaeth y Cynulliad o'r offeryn statudol neu'r offeryn statudol drafft, ni fydd Rheol Sefydlog 27.7 yn gymwys.

27.8        Os bydd unrhyw bwyllgor, ac eithrio’r pwyllgor sy’n gyfrifol am y swyddogaethau a ragnodir yn Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3, yn bwriadu cyflwyno adroddiad ar offeryn neu offeryn drafft y mae Rheol Sefydlog 27.5 yn gymwys iddo, rhaid iddo roi hysbysiad i’r llywodraeth ei fod yn bwriadu gwneud hynny heb fod yn hwyrach na saith diwrnod ar ôl i’r offeryn neu’r drafft gael ei osod.

27.8A      Caiff y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 19 ystyried unrhyw offeryn neu offeryn drafft sy’n ymwneud â threthi datganoledig y mae Rheol Sefydlog 27.5 yn gymwys iddo, yn ogystal â’r pwyllgor sy’n gyfrifol am y swyddogaethau a nodir yn Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3.  Nid yw Rheol Sefydlog 27.8 yn gymwys i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 19 mewn perthynas ag unrhyw gyfryw offeryn neu offeryn drafft.

27.9        Os bydd unrhyw bwyllgor yn ystyried unrhyw offeryn neu offeryn drafft y mae Rheol Sefydlog 27.5 yn gymwys iddo, caiff yr aelod o’r llywodraeth a’i gosododd (neu aelod arall o’r llywodraeth a enwebir gan Brif Weinidog Cymru i fod yn gyfrifol amdano) fod yn bresennol yn y pwyllgor a chymryd rhan yn nhrafodion y pwyllgor sy’n ymwneud â’r offeryn neu’r drafft ond ni chaiff bleidleisio.

Offerynnau Statudol Drafft y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i 

Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

27.9A      Rhaid i aelod o'r llywodraeth osod unrhyw offeryn statudol drafft y mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn gymwys iddo.

27.9B       Os:

(i)     cyflwynodd y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 21.3B adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 21.4B gydag argymhelliad mai'r weithdrefn gadarnhaol yw'r weithdrefn briodol ar gyfer offeryn; a

(ii)    bod Gweinidogion Cymru o'r farn serch hynny mai'r weithdrefn briodol ar gyfer yr offeryn yn weithdrefn penderfyniad negyddol;

rhaid i’r Memorandwm Esboniadol a osodir yn unol â Rheol Sefydlog 27.1 esbonio pam nad yw Gweinidogion Cymru yn derbyn argymhelliad y pwyllgor.

Peidio â Diwygio Offerynnau

27.10      Ni chaniateir diwygio offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae Rheolau Sefydlog 27.2 neu 27.5 yn gymwys iddo.

Tynnu Offerynnau yn ôl

27.11     Caniateir i offeryn statudol neu offeryn statudol drafft a osodwyd gerbron y Cynulliad gael ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg gan yr aelod o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am yr offeryn hwnnw.

Cyfrifo Dyddiau

27.12      Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o ddyddiau at ddibenion Rheol Sefydlog 27, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad wedi’i ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.

Cynigion Eraill mewn Perthynas ag Offerynnau neu Offerynnau Drafft

27.13      Nid yw Rheolau Sefydlog 27.1 i 27.9 yn rhagfarnu hawl unrhyw Aelod i gyflwyno unrhyw gynnig arall mewn perthynas ag offeryn neu offeryn drafft.

Cymhwyso’r Rheol Sefydlog at Is-ddeddfwriaeth Arall

27.14      Mae Rheolau Sefydlog 27.1 i 27.13 yn gymwys hefyd, gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol, i unrhyw is-ddeddfwriaeth arall (ac eithrio is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i’r Weithdrefn Cynulliad Arbennig o dan Reol Sefydlog 28) ar ffurf adroddiad, canllawiau, cod ymarfer neu ddogfen arall y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddynt:

cael eu gosod gerbron y Cynulliad, a

bod yn ddarostyngedig i unrhyw fath o weithdrefn Cynulliad sydd â’r un effaith neu effaith gyfatebol i’r rhai a grybwyllir yn Rheol Sefydlog 27.2 neu 27.5.

 

 

 

 

 

 

RHEOL SEFYDLOG 30B – Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU o dan y Ddeddf sy'n cyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru dros dro

 

Rheoliadau a wneir gan un o Weinidogion y Goron o dan adrannau 109A ac 80(8) o'r Ddeddf

30B.1          Yn Rheol Sefydlog 30B, ystyr "rheoliadau drafft perthnasol" yw rheoliadau drafft y mae un o Weinidogion y Goron yn cynnig eu gosod gerbron Senedd y DU, yn unol ag adran 109A neu 80(8) o'r Ddeddf.

30B.2          Rhaid i Weinidogion Cymru osod rheoliadau drafft perthnasol gerbron y Cynulliad heb fod yn hwyrach nag un diwrnod gwaith ar ôl iddynt gael copi ohonynt yn unol ag adran 109A(6)(a) neu 80(8F)(a) o'r Ddeddf.

Memorandwm Penderfyniad Cydsynio

30B.3          Rhaid i aelod o'r llywodraeth osod memorandwm ("memorandwm penderfyniad cydsynio") mewn perthynas ag unrhyw reoliadau drafft perthnasol heb fod yn hwyrach na saith diwrnod ar ôl i gopi o'r rheoliadau drafft perthnasol gael ei ddarparu i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 109A(6)(a) neu 80(8F)(a) o'r Ddeddf.

30B.4          Rhaid i femorandwm penderfyniad cydsynio:

(i)        crynhoi effaith y rheoliadau drafft perthnasol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu swyddogaethau Gweinidogion Cymru;

(ii)      gwneud argymhellion o ran a ddylai'r rheoliadau drafft perthnasol gael eu cymeradwyo wedi hynny gan Weinidogion y DU;

(iii)     esbonio'r rhesymau dros yr argymhelliad a wnaed yn (ii);

 

30B.5       Rhaid i'r Pwyllgor Busnes gyfeirio unrhyw femorandwm penderfyniad cydsynio at bwyllgor neu bwyllgorau i'w ystyried.

Cynnig Penderfyniad Cydsynio

30B.6       Ar ôl gosod memorandwm penderfyniad cydsynio, a heb fod yn hwyrach na 33 diwrnod ar ôl i Weinidogion Cymru gael copi o’r rheoliadau drafft perthnasol yn unol ag adran 109A(6)(a) neu 80(8F)(a) o’r Ddeddf, rhaid i aelod o'r llywodraeth osod cynnig ("cynnig penderfyniad cydsynio") ar gyfer penderfyniad naill ai'n rhoi neu'n gwrthod cydsyniad y Cynulliad i osod y rheoliadau drafft perthnasol gerbron Senedd y DU.

30B.7       Rhaid i'r Cynulliad ystyried cynnig penderfyniad cydsynio sydd wedi'i gyflwyno.

30B.8       Ni chaniateir i gynnig penderfyniad cydsynio gael ei drafod nes y bydd naill ai:

(i)        y pwyllgor neu'r pwyllgorau wedi cyflwyno adroddiad ar y memorandwm penderfyniad cydsynio cysylltiedig; neu

(ii) 33 diwrnod wedi mynd heibio ers i Weinidogion Cymru gael copi o'r rheoliadau drafft perthnasol yn unol ag adran 109A(6)(a) neu 80(8F)(a) o'r Ddeddf.

 

 Cyfrifo Dyddiau

30B.9      Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o ddyddiau at ddibenion Rheol Sefydlog 30A, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad wedi’i ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.

                  

Datganiadau Ysgrifenedig

30B.10        Rhaid i aelod o'r llywodraeth osod gerbron y Cynullaid unrhyw ddatganiad ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru i Weinidog y Goron fel a grybwyllwyd yn adran 157ZA(2)(b)(ii) o'r Ddeddf, a hynny heb fod yn hwyrach nag un diwrnod gwaith fel rheol ar ôl darparu'r datganiad. 

Adroddiadau mewn Cysylltiad â Chyfyngiadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir

30B.11        Rhaid i aelod o'r llywodraeth osod gerbron y Cynulliad gopi o unrhyw adroddiad a ddarperir i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 4(4) o Ran 2 o Atodlen 3 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 heb fod yn hwyrach nag un diwrnod gwaith ar ôl i'r adroddiad ddod i law.

30B.12        Mewn perthynas ag unrhyw reoliadau drafft a fyddai, os cânt eu cymeradwyo gan Senedd y DU, yn dirymu cyfyngiadau cyfraith yr UE a ddargedwir a osodir ar y Cynulliad neu Weinidogion Cymru o dan adran 109A neu 80(8) o'r Ddeddf, rhaid i aelod o'r llywodraeth osod gerbron y Cynulliad ddatganiad yn esbonio'r effaith y byddai'r rheoliadau drafft yn ei chael ar gymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, heb fod yn hwyrach na saith diwrnod ar ôl i'r rheoliadau drafft gael eu gosod gerbron Senedd y DU.

 

 

 

 

30C. RHEOL SEFYDLOG 30C - Hysbysu mewn perthynas ag Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd

(Ymadael) 2018 na chânt eu gosod gerbron y Cynulliad.

 

Offerynnau Statudol y mae angen hysbysu'r Cynulliad yn eu cylch

                  

30C.1      Yn Rheol Sefydlog 30C, ystyr "offeryn statudol perthnasol" yw offeryn statudol, neu offeryn statudol drafft, a wnaed, neu sydd i'w gwneud, gan Weinidog y DU sy'n gweithredu ar ei ben ei hun o dan adrannau 8, 9 neu 23 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 neu Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, sy'n cynnwys darpariaeth o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru.

Datganiadau Ysgrifenedig mewn perthynas ag Offerynnau Statudol Perthnasol

30C.2      Rhaid i aelod o'r llywodraeth osod datganiad ysgrifenedig yn rhoi hysbysiad o unrhyw offeryn statudol perthnasol, fel arfer o fewn tri diwrnod gwaith ar ôl ei osod gerbron Senedd y DU.

30C.3      Rhaid i'r datganiad ysgrifenedig:

(i)   crynhoi diben yr offeryn statudol;   

(ii)  nodi unrhyw effaith y caiff yr offeryn statudol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a / neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru; a

(ii)          pan fo Gweinidogion Cymru wedi cydsynio i Weinidogion y DU wneud yr offerynnau statudol perthnasol, esbonio'r rhesymau pam y rhoddwyd cydsyniad.